Landscape                                                                                                                                    

 

DATGANIAD I’R WASG

 

'Diffyg arweinyddiaeth amlwg' yn null Llywodraeth Cymru o ran llifogydd arfordirol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

 

Mae 'diffyg arweinyddiaeth amlwg' ar ran Llywodraeth Cymru wedi gadael un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol gyda phryderon difrifol ynghylch elfennau o strategaeth Cymru i fynd i'r afael â llifogydd arfordirol.

 

Yn ôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus mae angen cydnabyddiaeth glir o rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n gysylltiedig â rheoli llifogydd arfordirol a bod angen i gynnydd ddigwydd yn gyflymach.

 

Mae erydu a llifogydd arfordirol yng Nghymru yn dod o dan gylch gwaith nifer o sefydliadau a sectorau, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, awdurdodau rheoli risg, grwpiau arfordirol a sefydliadau eraill megis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Network Rail ac Ystâd y Goron.

 

Penderfynodd y Pwyllgor y dylai pawb fwydo i mewn i strategaeth genedlaethol drosfwaol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru, a bod yn rhan o'r strategaeth honno.

 

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Er bod llawer o bobl ardderchog yn cyflawni ar lawr gwlad, ac ysbryd gwydn iawn ymhlith y rheini sy'n wynebu'r gwaethaf o'r problemau hyn, nid yw hyn yn esgusodi’r diffyg cyfeiriad ac arweinyddiaeth a ddarparwyd hyd yma.

 

“Er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau angenrheidiol ynghylch adlinio a reolir a rheoli perygl yn cael eu cymryd, mae'n hanfodol bod arweinyddiaeth yn cael ei ddarparu.”

 

Amlygodd y Pwyllgor y mater o gilio a reolir, lle penderfynir y dylai tir gael ei aberthu ac ail-lunio llinell yr arfordir, o bosibl yn arwain at yr angen i adleoli cymunedau arfordirol cyfan.

 

Gan ddyfynnu'r enghraifft o Fairbourne yng Ngwynedd, lle mae cilio a reolir wedi cael ei nodi'n angenrheidiol, cyfeiriodd y Pwyllgor at adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru yn 2009 a gododd y mater gyntaf, ac roedd yn siomedig o weld bod diffyg cynnydd yn y gwaith cynllunio gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wyth mlynedd ers hynny.

 

Yn ôl Mr Ramsay:

 

"Pan holodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru ynghylch y diffyg cynnydd ar y mater o gilio a reolir, cawsom wybod ei fod yn rhywbeth na fyddai'n amlygu ei hun mewn 50 i 100 mlynedd.

 

“Mae’r Pwyllgor o’r farn bod hwn yn ddatganiad hunanfodlon iawn, sy’n nodweddiadol o’r problemau gyda rheoli llifogydd ac erydu arfordirol ac sydd wedi ein harwain i fynegi pryderon difrifol ynghylch cyflymder y gweithredu gan Lywodraeth Cymru.”

 

"Rydym eisiau gweld y llywodraeth yn nodi ystod o opsiynau ar gyfer cilio a reolir nad ydynt yn ddull 'un maint i bawb', sy'n rhoi ystyriaeth i enghreifftiau eraill ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac sy'n ystyried yr hyn sydd ei angen i gyfathrebu'n effeithiol gyda chymunedau sydd mewn perygl.

 

"Er bod gennym nifer o bryderon difrifol, credwn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau adeiladol i wella diogelwch arfordirol yn y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn croesawu parodrwydd Llywodraeth Cymru i dderbyn yr awgrymiadau a gododd drwy'r dystiolaeth.

 

"Er mwyn adeiladu ar hyn, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion i fynd i'r afael â'n pryderon."

 

Ymhlith y deg argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor mae'r canlynol:

 

-     Bod Llywodraeth Cymru yn nodi'n glir yn y strategaeth genedlaethol y rolau a'r cyfrifoldebau ar gyfer pawb sy'n gysylltiedig â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol er mwyn sicrhau ei bod yn glir pwy sy'n gyfrifol am gyflawni pob agwedd ar y strategaeth;

-     Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid cyflawni i ddatblygu un pwynt gwybodaeth ar gyfer ymwybyddiaeth o lifogydd, fel 'microwefan' neu wefan, sy'n cynnwys manylion clir am rolau a chyfrifoldebau ar gyfer ymwybyddiaeth o lifogydd; a

-     Bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, o fewn y 12 i 24 mis nesaf, lunio safbwynt polisi sy'n nodi ystod o opsiynau ar gyfer adlinio a reolir.

 

Anfonir yr adroddiad at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi ymateb iddo.

 

Nodiadau i olygyddion

 

I gael rhagor o wybodaeth, neu i wneud cais am gyfweliadau, lluniau neu gyfleoedd ffilmio, cysylltwch â gwasanaeth cyswllt â'r cyfryngau y Cynulliad Cenedlaethol ar 0300 200 7487, neu anfonwch neges e-bost at newyddion@cynulliad.cymru.